Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 17 Hydref 2018
Amser:
09.00 -
10.06
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5131
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Llyr Gruffydd AC Mike Hedges AC Jane Hutt AC Nick Ramsay AC Helen Mary Jones AC |
Tystion: |
Dr Edward Jones, Prifysgol Bangor Dr Helen Rogers, Prifysgol Bangor |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Georgina Owen (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Christian Tipples (Ymchwilydd) Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Yn dilyn ei etholiad fel Cadeirydd dros dro ar 3 Hydref 2018, croesawodd Llyr Gruffydd AC yr Aelodau i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC a Neil Hamilton AC. Roedd Llyr Gruffydd AC yn dirprwyo ar ran Steffan Lewis AC.
1.3 Roedd Helen Mary Jones AC yn bresennol yn y cyfarfod gyda chaniatâd y Cadeirydd dros dro, yn unol â Rheol Sefydlog 17.49.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Edward Jones a Dr Helen Rogers o Brifysgol Bangor ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft â rhai mân newidiadau.
7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft â rhai mân newidiadau.
8.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull gweithredu ar gyfer recriwtio dau aelod anweithredol o Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru, a chytunodd arno.
9.1 Cymerodd y Pwyllgor y camau a ganlyn:
· nododd y bydd y sesiwn dystiolaeth gyda'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol bellach yn cael ei chynnal ar 7 Tachwedd 2018;
· cytunodd ar enwau'r Aelodau a fydd yn mynd i'r cyfarfod ar 15 Tachwedd ynghylch asesiadau effaith yn y gyllideb. Cynhelir y cyfarfod hwnnw ar y cyd â'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau; a
· chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am gyfarfod ychwanegol at ddibenion trafod ei adroddiad drafft ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20.
10.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ymateb i ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cymreig i ddatganoli toll teithwyr awyr i Gymru.